Nodau

 

Prif nod CHERISH yw cynyddu gallu a gwybodaeth mewn perthynas ag addasu i newid hinsawdd ar gyfer Môr Iwerddon a’r Cymunedau Arfordirol. Cyflawnir hyn drwy’r naw Menter CHERISH:

MC-1

Timau arolygu CHERISH yn datblygu cyd arweiniad ar arfer gorau

Bydd timau cyd-genedl integredig yn arolygu ac yn cofnodi safleoedd treftadaeth sy’n cael eu bygwth gan newid hinsawdd mewn cymunedau arfordirol a dargedir, gan ddefnyddio’r technolegau arloesol diweddaraf a thechnegau synhwyro o bell..

MC-2

Rhwydwaith parhaol CHERISH o farcwyr arolwg sefydlog ‘newid lleol’ a drylliadau dangosydd

Yn un o brif ganlyniadau’r gwaith, bydd CHERISH yn darparu’r pwyntiau arolwg sefydlog man cychwyn 3D a data cyntaf ar gyfer nifer o asedau treftadaeth gyda’r nod o fonitro newid hinsawdd yn y dyfodol.

MC-3

Rhestr CHERISH o ddata helaethach am hanes amgylcheddol riffiau, ynysoedd a phentiroedd

Set ddata wedi’i huwchraddio a’i diweddaru am yr amgylchedd hanesyddol cenedlaethol, a fydd o gymorth wrth lunio rhestri blaenoriaethol ar gyfer dynodi statudol.

MC-4

Rhestr CHERISH o ddata palaeoamgylcheddol helaethach am riffiau, ynysoedd a phentiroedd

Data palaeoamgylcheddol aml-brocsi o fewn fframwaith amseryddol cadarn, wedi’u datblygu o ddetholiad o leoliadau i ail-greu amgylcheddau’r gorffennol a llywio strategaethau addasu yn y dyfodol.

MC-5

Riffiau, ynysoedd a phentiroedd 3D CHERISH: Modelau atraeth/alltraeth 3D di-dor

Bydd nifer o ‘fapiau real’ digidol arloesol a gynhyrchir drwy LiDAR a ffotogrametreg yn darparu data geomatig 3D ar gyfer cynllunio a rheoli.

MC-6

Hyfforddi’r gwyddonydd o ddinesydd

Trefnu gweithdai, seminarau a digwyddiadau estyn-allan i godi ymwybyddiaeth a rhoi hyfforddiant i’r gwyddonydd o ddinesydd ym meysydd arolygu a chofnodi, treftadaeth mewn perygl, newid hinsawdd ac effeithiau stormydd.

MC-7

Cloddiadau cymunedol CHERISH ar safleoedd treftadaeth sydd mewn perygl

Bydd CHERISH yn cynnal cloddiadau cymunedol i hyfforddi gwyddonwyr o ddinasyddion mewn cymunedau lleol fel y gallant gofnodi safleoedd treftadaeth sydd mewn perygl.

MC-8

Porth gwe mynediad agored CHERISH

Arf allweddol o eiddo CHERISH a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i gyflwyno gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ac a fydd yn waddol pwysig o ran llywio strategaethau addasu yn y dyfodol.

MC-9

9 Cynlluniau rheoli CHERISH i dirfeddianwyr ar gyfer cynllunio sut i addasu

Cynlluniau rheoli manwl a setiau data GIS ar gyfer y riffiau, ynysoedd a phentiroedd sy’n cael eu hastudio, yn dangos asedau treftadaeth ddiwylliannol a bygythiadau newid hinsawdd.

 

Yn ystod y 5 mlynedd o fuddsoddi bydd y prosiect yn cyflawni’r 8 newid terfynol a ganlyn:

 

 1  Ysgogiad ar gyfer hybu twf a thwristiaeth leol yn yr economi las. Bydd CHERISH yn darparu gwybodaeth newydd am dreftadaeth arfordirol a chynhyrchion arloesol, gan sicrhau gwell twristiaeth ddiwylliannol ar gyfer y safleoedd astudio, ac ymwybyddiaeth uwch o'r amgylchedd hanesyddol mewn cymunedau a ddetholwyd.

 2  Gwell sylfaen tystiolaeth ar gyfer strategaethau gwarchod, gwneud penderfyniadau ac addasu statudol, gan fod yn sail i'r gwaith o warchod asedau'r amgylchedd hanesyddol rhag newid hinsawdd, a hynny ar bob lefel, o gymunedau lleol i'r llywodraeth.

 3  Cynnydd o ran gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o asedau treftadaeth ar y riffiau, yr ynysoedd a'r pentiroedd pellennig ledled Môr Iwerddon, nad ydynt wedi cael eu hastudio ddigon o'r blaen, gyda'r dystiolaeth yn dod o gofnodion newydd eu creu a gwell o'r amgylchedd hanesyddol, ymyrraeth maes o ran dyddio a dadansoddi gwyddonol, rhaglenni o weithgareddau gwyddoniaeth ac allgymorth ar gyfer dinasyddion (yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, diwrnodau hyfforddi, gweithdai a gwaith cloddio), ac adnoddau addysgiadol a fydd yn cael eu dosbarthu.

 4  Cofnodion palaeoamgylcheddol aml-brocsi, newydd, manwl o leoliadau a ddewiswyd yn dilyn arolwg cychwynnol o'r data mewn bod, ac asesiad o safleoedd posibl. Bydd setiau data aml-brocsi ar gael i'r cyhoedd, a bydd gwybodaeth yn cael ei dosbarthu trwy gyfuniad o bapurau academaidd, adroddiadau a gweithgareddau allgymorth. Bydd gwybodaeth am eithafion tywydd hanesyddol yn cael ei hymgorffori mewn cronfa ddata mewn bod sy'n cael ei datblygu yn rhan o waith ymchwil cyfredol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

 5  Darparu data geomateg gwaelodlin cydraniad uchel, cywir, cyrchiad agored sydd, mewn perthynas ag erydu arfordirol, llifogydd a phwysau amgylcheddol ychwanegol, yn galluogi gwell gwaith o ran modelu safleoedd a thirweddau treftadaeth ddiwylliannol, ac o ran gwerthuso'r risgiau iddynt. Bydd hyn yn cynnwys mapio gwely'r môr gyda'r glannau mewn modd sy'n gyson â chwmpas y mapiau daearol atraeth. Bydd y data a gynhyrchir yn mynd i'r afael â bylchau sy'n bodoli o ran yr wybodaeth ledled ardal yr astudiaeth, a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei darparu am ddim ar-lein, a hynny trwy borth pwrpasol ar y We, yn ogystal â thrwy byrth/safleoedd cenedlaethol ac UE cyfredol.

 6   Canllaw arfer gorau ar y gyd-genedl newydd ar gyfer safoni gwaith cofnodi a monitro effaith y newid yn yr hinsawdd ar asedau treftadaeth daearol a morol i hysbysu asiantaethau, cyrff statudol a'r llywodraeth, a llywio strategaethau ymaddasol.

 7   Cynhyrchion delweddu, cipio data a modelu arloesol i wella gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd hanesyddol a'r newid yn yr hinsawdd; mae hyn i gynnwys integreiddio data'r prosiect mewn seilwaith data agored gofodol cyrchiad agored a rennir (SDI) er mwyn galluogi i'r holl setiau data gael eu hailddefnyddio ar draws y gweithrediad yn Ewrop a thu hwnt, gan gynnwys trwy'r platfform ymaddasu i'r hinsawdd.

 8   Adnabod safleoedd treftadaeth ddiwylliannol "mewn perygl" yn yr ardal ymchwil, a chynhyrchu cynlluniau cyfarwyddyd lliniaru a chadwraeth ar gyfer eu rheoli a'u hamddiffyn yn y dyfodol.