Pan ddaw huganod ac archaeoleg wyneb yn wyneb – ymchwiliadau newydd CHERISH ar Ynys Gwales - Dan Hunt (CBHC)

Llun o’r awyr o Ynys Gwales yn dangos yr holl nodweddion a gofnodwyd o arolygon archaeolegol blaenorol.

Llun o’r awyr o Ynys Gwales

Ar yr olwg gyntaf, mae Gwales yn edrych fel ynys fechan ddigroeso 25km oddi ar arfordir gorllewinol Sir Benfro. Ond o edrych yn fanylach, mae’r ynys yn dechrau dangos arwyddion o le arbennig sy’n gyforiog o hanes a gweithgarwch. Heddiw, rhwng misoedd Mawrth a Hydref, mae’r ynys yn gartref i hyd at 39,000 o Huganod y Gogledd, sy’n teithio i’r ynys o gyn belled ag Affrica a gwledydd Môr y Canoldir er mwyn magu a nythu. Fodd bynnag, ymhlith y miloedd o nythod huganod a’r tyllau palod gwag mae gweddillion strwythurau cerrig dirgel wedi’u rhyng-gysylltu gan hen derfynau caeau carreg. Yn y gorffennol, arferai dyn egsbloetio’r ynys yn ddigwestiwn cyn i balod a huganod ddod i fyw arni, ond mae’r cymhelliant wedi bod yn aneglur erioed. Mae ymchwil diweddar gan CHERISH wedi taflu goleuni ar rywfaint o ddirgelwch yr ynys drwy archwilio a chofnodi ei harchaeoleg sy’n prysur erydu.

Nid oes llawer o gasgliadau wedi’u llunio o ymchwiliadau archaeolegol blaenorol i’r ynys. Gwnaed y darganfyddiadau archaeolegol cyntaf i gael eu cofnodi ar ddechrau’r 20fed ganrif, pan gofnodwyd casgliad bychan o grochenwaith, naddion fflint a cherrig wedi llosgi fel rhai wedi dod o safle ‘anheddau hynafol’ ar draws yr ynys. Yn ddiddorol, cafodd y crochenwaith ei adnabod fel un yn dyddio mae’n debyg o’r Oes Haearn a chyfnod Rhufeinig, a fyddai’n awgrymu bod pobl ar yr ynys cyn gynhared â 2,000 i 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Drwy gydol gweddill yr 20fed ganrif, cynhaliwyd arolygon pellach gan Douglas Hague o’r Comisiwn Brenhinol, a gofnododd dystiolaeth o anheddiad a thiroedd caeëdig. Dechreuodd ymweliadau maes ac arolygon o’r awyr diweddarach a gynhaliwyd gan archaeolegwyr ddatgelu mwy a mwy o strwythurau aneddiadau, gan gynnwys sawl tŷ crwn posib tua chanol yr ynys. Hefyd dechreuodd yr arolygon hyn dynnu sylw am y tro cyntaf at effeithiau negyddol yr huganod ar yr archaeoleg. Nid yn unig oeddent yn araf erydu’r holl lystyfiant ar yr ynys wrth adeiladu nythod ac oherwydd y gwano eithriadol asidig, ond hefyd roeddent yn erydu gweddillion archaeolegol gwerthfawr.

Map o Ynys Gwales yn dangos yr holl nodweddion a gofnodwyd o arolygon archaeolegol blaenorol.

 Map o Ynys Gwales yn dangos yr holl nodweddion a gofnodwyd o arolygon archaeolegol blaenorol.

Fel ymateb i fygythiadau erydu oherwydd pwysau amgylcheddol a gan fywyd gwyllt, aeth CHERISH ati i gofnodi ac ymchwilio i’r archaeoleg dan fygythiad cyn i ragor gael ei cholli. Yn 2017 cynhaliwyd yr arolwg LiDAR (sganio laser o’r awyr) 3D cyntaf erioed ar yr ynys gan alluogi adnabod manwl gywir a mapio’r holl nodweddion archaeolegol yn sefyll oedd wedi goroesi’r huganod. Ar sail y gwaith hwn, nodwyd rhai meysydd o ddiddordeb ac ymchwiliwyd iddynt yn ystod ymweliad yn 2019 gan CHERISH. Prif flaenoriaeth y tîm oedd cynnal gwaith cloddio cyflym am ddeuddydd er mwyn gwerthuso strwythur carreg sengl tua chanol yr ynys a oedd wedi dod i’r golwg oherwydd erydiad y llystyfiant a arferai fod ar ei ben. Tyllwyd i segment bach o un o’r waliau strwythur er mwyn gweld ei hadeiladwaith ac i adfer unrhyw dystiolaeth arteffactaidd bosib. Roedd y canlyniadau’n gymysg gyda’r tîm yn profi llawenydd (oherwydd yr archaeoleg) ac atgasedd (oherwydd holl gwano’r huganod).

 

 

Cloddio yn yr adeilad yn agos at y lefel trwythiad. Mae wyneb mewnol taclus y wal orllewinol i’w weld i’r dde o Louise.

Cloddio yn yr adeilad yn agos at y lefel trwythiad. Mae wyneb mewnol taclus y wal orllewinol i’w weld i’r dde o Louise.

Er ein bod yn gwybod bod yr ynys yn gartref i un o’r poblogaethau mwyaf o huganod yn y byd (yn cyfrif am tua 10% o gyfanswm eu poblogaeth ledled y byd), roedd eu heffaith ar briddoedd yr ynys yn annisgwyl. Roedd rhaid i’r tîm yn ei hanfod gloddio drwy waddodion oedd wedi’u creu’n gyfangwbl bron o dail a phlu huganod. Gwnaed hyn yn waeth gan y ffaith bod y lefel trwythiad yn lleoliad y ffos gentimetrau yn unig o dan arwyneb y ddaear, oedd yn troi’r ‘pridd’ yn slwtsh amhleserus. Er hynny, efallai bod taro’r lefel trwythiad wedi bod yn rhyddhad i’r tîm, a gafodd esgus i stopio tyllu! Er bod y cloddio’n eithaf amhleserus, roedd y wal ddaeth i’r golwg yn eithaf trawiadol. Roedd y waliau wedi’u hadeiladu’n ofalus iawn gan bwy bynnag wnaeth eu codi, gyda sylw manwl i greu wyneb mewnol taclus. Mae hyn yn dynodi bod hwn yn strwythur neu dŷ wedi’i adeiladu’n dda ac yn bodoli ers amser hir, yn hytrach na chysgodfan mwy sylfaenol neu adeilad fferm. Roedd y wal hefyd yn tua 0.75m o led a byddai wedi bod o leiaf 1.6 metr o uchder. Does dim amheuaeth y byddai wedi gallu gwrthsefyll stormydd gerwinaf y gaeaf. Yn anffodus, ni chafwyd hyd i unrhyw arteffactau, sy’n golygu bod dyddiad y strwythur yn ddirgelwch o hyd. Pwy a ŵyr, efallai bod yr holl arteffactau wedi cael eu dinistrio gan y ‘priddoedd’ hynod asidig sy’n cael eu dosbarthu’n garedig gan yr huganod.

Er bod dyddio archaeoleg Gwales yn broblemus o hyd, mae’n glir drwy’r gwaith sydd wedi’i wneud gan CHERISH ac ymchwilwyr yn y gorffennol pa mor gyfoethog yw archaeoleg yr ynys. Os yw’r strwythurau a waliau’r caeau’n filoedd neu gannoedd o flynyddoedd oed, mae’n glir bod pobl wedi cael eu denu at yr ynys ac wedi byw yno ar ryw adeg drwy gydol hanes. Er nad oedd posib ateb y cwestiynau i gyd wrth ymgymryd â’r gwaith hwn, mae’n bwysig bod yr ynys yn parhau i gael ei monitro ar gyfer archaeoleg sy’n cael ei datgelu gan erydiad llystyfiant, er mwyn parhau i roi hanes prin yr ynys at ei gilydd. I le mor anghysbell ac ynysig, does dim amheuaeth y byddai wedi chwarae rhan arwyddocaol ym mywydau llawer o bobl yn rhychwantu cenedlaethau a chyfnodau o amser.