Staciau, Clogwyni a Chrochanau: Arolygu ceyrydd pentir Castellmartin, de Sir Benfro, Awst 2020 - Toby Driver CBHC

 

Dan Hunt a Toby Driver yn arolygu gyda'r drôn ar bentir Crocksydam

Dan Hunt a Toby Driver yn arolygu gyda'r drôn ar bentir Crocksydam 

'Mae'r gwrthglawdd ar dro yn ei gryfhau tua’r tir, yn ymestyn o'r ddringfa gysgodol hon i ochr arall y culdir, lle mae'r clogwyni'n hynod serth, gan amgáu gofod mawr iawn, ac yn y canol mae’r Crochan yn agor ei geg yn y modd mwyaf erchyll..’ Richard Fenton, yn disgrifio caer bentir Trefflemin yn 1811

Yn ôl at y gwaith maes

Mae epidemig y Coronafeirws wedi gwneud 2020 yn flwyddyn anarferol ac anodd i filiynau o bobl. Ynghyd â'r rhan fwyaf o sefydliadau eraill, dechreuodd staff y Comisiwn Brenhinol yng Nghymru, sy'n arwain Prosiect CHERISH, weithio gartref ym mis Mawrth 2020. Ailddechreuodd y gwaith maes blaenoriaeth ym mis Awst, gyda phob tasg yn gofyn am achos busnes cadarn ac asesiad risg manwl.

Ganol mis Awst cymeradwywyd gwaith maes monitro Tîm CHERISH o'r Comisiwn Brenhinol ar Safle Tanio Castellmartin. Nod y gwaith maes newydd hwn oedd cynnal yr arolygon ffotogrametrig cyntaf o'r awyr gyda drôn o'r pedair prif gaer bentir arfordirol, Trwyn Linney, Trefflemin, Crocksydam a Buckspool/Y Castell i ddarparu modelau sylfaen i fonitro newid yn y dyfodol. Roedd angen arolygon tir topograffig newydd hefyd ar gyfer ceyrydd Buckspool a Crocksydam, a arolygwyd ddiwethaf yn y 1970au. Yn ogystal, roedd angen ymchwilio i gaer bentir 'newydd' bosib a nodwyd yn ystod arolwg o'r awyr ar Dwyn Crickmail.

Dan Hunt a Toby Driver yn arolygu gyda'r drôn ar bentir Crocksydam  Dan Hunt a Toby Driver yn arolygu gyda'r drôn ar bentir Crocksydam   'Mae'r gwrthglawdd ar dro yn ei gryfhau tua’r tir, yn ymestyn o'r ddringfa gysgodol hon i ochr arall y culdir, lle mae'r clogwyni'n hynod serth, gan amgáu gofod mawr iawn, ac yn y canol mae’r Crochan yn agor ei geg yn y modd mwyaf erchyll..’ Richard Fenton, yn disgrifio caer bentir Trefflemin yn 1811  Yn ôl at y gwaith maes  Mae epidemig y Coronafeirws wedi gwneud 2020 yn flwyddyn anarferol ac anodd i filiynau o bobl. Ynghyd â'r rhan fwyaf o sefydliadau eraill, dechreuodd staff y Comisiwn Brenhinol yng Nghymru, sy'n arwain Prosiect CHERISH, weithio gartref ym mis Mawrth 2020. Ailddechreuodd y gwaith maes blaenoriaeth ym mis Awst, gyda phob tasg yn gofyn am achos busnes cadarn ac asesiad risg manwl.  Ganol mis Awst cymeradwywyd gwaith maes monitro Tîm CHERISH o'r Comisiwn Brenhinol ar Safle Tanio Castellmartin. Nod y gwaith maes newydd hwn oedd cynnal yr arolygon ffotogrametrig cyntaf o'r awyr gyda drôn o'r pedair prif gaer bentir arfordirol, Trwyn Linney, Trefflemin, Crocksydam a Buckspool/Y Castell i ddarparu modelau sylfaen i fonitro newid yn y dyfodol. Roedd angen arolygon tir topograffig newydd hefyd ar gyfer ceyrydd Buckspool a Crocksydam, a arolygwyd ddiwethaf yn y 1970au. Yn ogystal, roedd angen ymchwilio i gaer bentir 'newydd' bosib a nodwyd yn ystod arolwg o'r awyr ar Dwyn Crickmail.  Prehistoric rampart walling at Buckspool promontory fort   Gwrthglawdd cynhanes yng nghaer bentir Buckspool

Gwrthglawdd cynhanes yng nghaer bentir Buckspool

Llun o’r awyr o gaer bentir Trwyn Linney o fis Mawrth 2018

Llun o’r awyr o gaer bentir Trwyn Linney o fis Mawrth 2018 

Arolwg archeolegol ar safle tanio byw


Dim ond pan mae seibiant tanio wedi’i drefnu y gallwn gynnal gwaith maes ar y safle milwrol prysur iawn hwn. Er bod posib cael mynediad i gaer bentir Bae Trefflemin ar rai nosweithiau ac ar benwythnosau, mae caer bentir Trwyn Linney yn yr ardal danio fyw a dim ond pan fydd y safle cyfan ar gau y gellir ymweld â hi, yn ystod y Pasg a mis Awst fel rheol.

Er bod Dan a Toby yn y tîm yn beilotiaid drôn cymwys, roedd angen caniatâd uwch gan Cadw, y Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ar gyfer ein harolygon drôn hefyd. Rydym yn ddiolchgar i'r holl staff y buom yn gweithio â nhw i gael caniatâd. Roedd amseriad arolwg mis Awst yn osgoi sensitifrwydd adar sy'n nythu ar y clogwyni ond roedd rhaid i ni fod yn ymwybodol o hyd o forloi’n geni eu rhai bach yn gynnar ar y traethau.

Llun o’r awyr o gaer bentir Trwyn Linney o fis Mawrth 2018  Llun o’r awyr o gaer bentir Trwyn Linney o fis Mawrth 2018   Arolwg archeolegol ar safle tanio byw   Dim ond pan mae seibiant tanio wedi’i drefnu y gallwn gynnal gwaith maes ar y safle milwrol prysur iawn hwn. Er bod posib cael mynediad i gaer bentir Bae Trefflemin ar rai nosweithiau ac ar benwythnosau, mae caer bentir Trwyn Linney yn yr ardal danio fyw a dim ond pan fydd y safle cyfan ar gau y gellir ymweld â hi, yn ystod y Pasg a mis Awst fel rheol.  Er bod Dan a Toby yn y tîm yn beilotiaid drôn cymwys, roedd angen caniatâd uwch gan Cadw, y Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ar gyfer ein harolygon drôn hefyd. Rydym yn ddiolchgar i'r holl staff y buom yn gweithio â nhw i gael caniatâd. Roedd amseriad arolwg mis Awst yn osgoi sensitifrwydd adar sy'n nythu ar y clogwyni ond roedd rhaid i ni fod yn ymwybodol o hyd o forloi’n geni eu rhai bach yn gynnar ar y traethau.  A diagram explaining the CHERISH Project’s ‘toolkit’ approach to surveying and recording archaeology and landscape change in the coastal zones of Wales and Ireland (CHERISH Project. Illustration © Carys Tait/Carys-ink.com)  Diagram yn esbonio dull ‘pecyn adnoddau’ Prosiect CHERISH o arolygu a chofnodi archeoleg a newid mewn tirwedd ym mharthau arfordirol Cymru ac Iwerddon

Diagram yn esbonio dull ‘pecyn adnoddau’ Prosiect CHERISH o arolygu a chofnodi archeoleg a newid mewn tirwedd ym mharthau arfordirol Cymru ac Iwerddon

Cynhaliwyd ymweliad cyntaf Prosiect CHERISH â'r safle ym mis Mawrth 2018 gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, ond gwnaed yr arolygon manwl modern cyntaf ar geyrydd Trwyn Linney a Threfflemin ddegawd yn gynharach gan Louise o'r Comisiwn Brenhinol yn 2008. Mae'r arolygon cynharach hyn, ynghyd â mapiau canrif oed a ffotograffau hanesyddol o'r awyr, yn darparu llinellau sylfaen ardderchog i farnu patrymau erydu tymor hwy yn wyneb newid yn yr hinsawdd yn eu herbyn.

Gan deithio mewn ceir ar wahân, a neilltuo setiau o offer ar wahân, roedd ein stop cyntaf ni yn Swyddfa Safle Castellmartin yn gynnar ar ddiwrnod cyntaf y gwaith maes ar gyfer Briff y Safle. Roedd hyn er mwyn sicrhau y gallem ganfod ac osgoi unrhyw arfau a allai fod yn gorwedd hyd y lle yn yr ardaloedd tanio byw.

Caer bentir Bae Trefflemin o’r awyr, Mawrth 2018

Caer bentir Bae Trefflemin o’r awyr, Mawrth 2018

Arolygu ar ymyl y clogwyni

Roeddem yn ffodus o gael wythnos o dywydd poeth a heulog a phrin ddim gwynt i gynnal ein harolygon drôn. Y drôn rydym yn ei hedfan yw Phantom IV Advanced, gan ddefnyddio meddalwedd sy'n ein galluogi i rag-raglennu hediad arolygu grid ar gyfer ffotogrametreg, gan gynnwys pennu altitiwd a manylder daear. Cyn dechrau hedfan, mae rhwydwaith o 'groesau' rheoli’n cael eu gosod yn y ddaear a'u harolygu gydag offer GNSS (System Lloeren Llywio Fyd-eang) fel bod y model 3D gorffenedig wedi'i leoli'n fanwl gywir o fewn ychydig gentimetrau neu'n well.

Ffotograff polyn 6m gyda GoPro o dwll y ‘Crochan’ yng nghaer bentir Trefflemin

Ffotograff polyn 6m gyda GoPro o dwll y ‘Crochan’ yng nghaer bentir Trefflemin 

Caer bentir newydd a chei chwarel hanesyddol

Caer bentir Twyn Crickmail o ddrôn

Caer bentir Twyn Crickmail o ddrôn 

Roedd pentir diddorol yn Nhwyn Crickmail wedi edrych fel caer bentir bosib o arolwg o'r awyr yn 2018 ond roedd angen ymweliad ar y tir i fod yn siŵr. Canfuwyd bod sarn bendant yn mynd i mewn i'r gaer rhwng gweddillion dwy ffos sydd wedi'u herydu. Y tu mewn mae olion waliau cerrig isel, o un neu ddau o dai crynion bach o bosib. Mae cymeriad y gwrthgloddiau isel sydd wedi goroesi a’r ffosydd wedi'u llenwi yn awgrymu y gallai Twyn Crickmail fod o gyfnod cynharach na'r ceyrydd pentir eraill, mwy sylweddol, gerllaw, yn dyddio o'r Oes Efydd Ddiweddarach o bosib.

Cawsom ein synnu hefyd o ddarganfod wal gerrig uchel yn y gyli arfordirol o dan y gaer, wedi'i gosod rhwng clogwyni môr uchel. Mae'n ymddangos bod hwn yn llwyfan llwytho ar gyfer y fasnach galchfaen hanesyddol a ffynnai tan flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Er nad yw'r wal wedi'i marcio ar fapiau hanesyddol, ac er nad yw wedi'i chofnodi ar hyn o bryd, mae'n awgrymu safle lle’r oedd cerrig wedi’u chwarelu’n cael eu llwytho i longau’n aros, yn debyg i gei llwytho yn nhrwyn caer bentir Trefflemin.

Golygfa yn dangos llwybr hedfan y drôn uwch ben caer bentir Trefflemin, yn cofnodi miloedd o ffotograffau fertigol mewn grid arolygu

 

Golygfa yn dangos llwybr hedfan y drôn uwch ben caer bentir Trefflemin, yn cofnodi miloedd o ffotograffau fertigol mewn grid arolygu 

Dyma'r arolygon drôn archeolegol cyntaf ar y clogwyni sy’n erydu yng Nghastellmartin, gan arwain at gofnod 3D eithriadol fanwl o ymyl y clogwyn a'r ceyrydd, ac yn rhagori ar yr hen arolwg sganio laser yn yr awyr gyda manylder 2 fetr (LiDAR) yn 2004, y gellir ei weld ar Borthol Lle y llywodraeth.

Yn ystod yr wythnos, fe wnaethom arolygu 2.8km o arfordir i fanylder 2cm gyda'r drôn, gan hedfan 87.5 hectar o ffotogrametreg fertigol a chasglu tua 3200 o ddelweddau fertigol ynghyd â llawer o rai lletraws, yn ogystal â sawl munud o fideo o'r awyr. Mae prosesu'r holl ddata hyn gan weithio gartref yn heriol, ond rydym yn dechrau cynhyrchu modelau gorffenedig o'r safleoedd arfordirol.

Y model 3D newydd o geyrydd pentir Bae Trefflemin (chwith) a Crocksydam (dde) a’r arfordir calchfaen yn y canol

Y model 3D newydd o geyrydd pentir Bae Trefflemin (chwith) a Crocksydam (dde) a’r arfordir calchfaen yn y canol 

Mae'r modelau 3D newydd ar gyfer ceyrydd pentir Bae Trefflemin a Crocksydam yn dangos y ddau safle mewn manylder eithriadol. Mae dyluniad Crocksydam yn wahanol iawn i'r gwrthgloddiau tal ar dro yn Nhrefflemin ac efallai bod dibenion eithaf gwahanol wedi bod i’r ddau safle yma sy’n agos at ei gilydd. Mae'r modelau 3D newydd hyn yn darparu'r sail ar gyfer dadansoddiad newydd o'r ceyrydd arfordirol cynhanes diddorol hyn.