Postiad Blog – Caerau Pentir Cynhanesyddol Sir Benfro – Arfordiroedd a chanfyddiadau’n newid (RCAHMW)

 

Mae’n anodd gwadu nad yw arfordir Sir Benfro ymhlith y gwychaf yn Ynysoedd Prydain o ran ei harddwch a’i amrywiaeth. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cerdded ar hyd llwybr arfordirol enwog Sir Benfro yn rhyfeddu at yr hyn a welant, ac mae’n hawdd gweld pam. Fodd bynnag, pan ofynnir iddynt a ydynt wedi sylwi ar unrhyw gaerau pentir cynhanesyddol ar eu taith – y mae mwy na 50 ohonynt – bydd llawer yn dweud eu bod wedi dod ar draws rhai twmpathau a chodiadau ond dim byd anarferol. Ond yn y Cyfnod Cynhanesyddol byddai llawer o’r safleoedd hyn yn Sir Benfro wedi bod yn ganolfannau pwysig mewn tirwedd hynafol brysur, ac yn adeiladweithiau trawiadol iawn wrth edrych arnynt o gyfeiriad y tir neu’r môr. Mae canfyddiadau modern o’r safleoedd hyn a’u tirweddau a morweddau cysylltiedig wedi symud ymhell y tu hwnt i ganfyddiadau’r rhai a’u hadeiladodd, ac mae newid hinsawdd ac erydiad arfordirol wedi chwarae rhan allweddol yn y newid canfyddiadol hwn.

Caerau pentir yw un o’r mathau mwyaf niferus o heneb archaeolegol yn y sir, ond ni wyddom fawr ddim amdanynt. Mae’r ffaith bod cymaint ohonynt ar hyd yr arfordir yn awgrymu eu bod yn elfennau pwysig o’r dirwedd gynhanesyddol, ond nid yw eu swyddogaeth yn glir. Ni fu llawer o waith cloddio ynddynt, ac felly nid yw dehongliadau o’r safleoedd yn ddibynadwy. Porth y Rhaw i’r de-ddwyrain o Dyddewi yw un o’r safleoedd prin lle bu cloddio sylweddol a chasglwyd tystiolaeth helaeth o sawl cyfnod anheddu o’r Oes Haearn gynnar-canol hyd y 4edd ganrif OC. Ar sail y gwaith hwn, mae llawer o gaerau pentir y sir wedi’u dehongli fel mannau lle bu cymunedau arfordirol yn byw ac yn gweithio, ac yn manteisio ar fynediad hwylus i’r môr. Er ei bod hi’n bosibl bod y dehongliad hwn yn wir am y mwyafrif ohonynt, mae’r gwahaniaethau enfawr o ran maint a chynllun yr amddiffynfeydd, yr arwynebedd mewnol, eu swyddogaethau tebygol, a mynediad i’r môr yn golygu bod y term cyffredinol ‘caer bentir’ yn cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd i ddisgrifio math hynod amrywiol o heneb. Yn ogystal â Sir Benfro, mae’r safleoedd hyn i’w cael ar hyd llawer o arfordiroedd sy’n wynebu tuag at Fôr Iwerddon, Môr Udd a Môr Iwerydd, gan ymestyn eu harwyddocâd y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Awyrlun o gaer bentir Porth y Rhaw, wedi’i dynnu o awyren, sy’n dangos y gyfres o amddiffynfeydd a’r tu mewn lle bu erydiad sylweddol. Darganfuwyd tystiolaeth o dai crwn yn ystod cloddiadau yn rhan ddwyreiniol y rhan fewnol (ar frig y llun). Cafodd tystiolaeth o bantiau, sydd o bosibl yn gysylltiedig ag aneddiadau, ei darganfod wrth arolygu’r gwrthgloddiau ar lethrau gorllewinol y gaer (gwaelod y llun).

Awyrlun o gaer bentir Porth y Rhaw, wedi’i dynnu o awyren, sy’n dangos y gyfres o amddiffynfeydd a’r tu mewn lle bu erydiad sylweddol. Darganfuwyd tystiolaeth o dai crwn yn ystod cloddiadau yn rhan ddwyreiniol y rhan fewnol (ar frig y llun). Cafodd tystiolaeth o bantiau, sydd o bosibl yn gysylltiedig ag aneddiadau, ei darganfod wrth arolygu’r gwrthgloddiau ar lethrau gorllewinol y gaer (gwaelod y llun).

Er bod cymaint ohonynt, mae ein dealltwriaeth o gaerau pentir yn gyfyngedig iawn, ac i wneud pethau’n waeth maen nhw wedi bod yn cael eu dinistrio gan erydiad arfordirol ers canrifoedd, fel y gellir gweld drwy astudio mapiau hanesyddol ac awyrluniau. Yn ogystal â pheri colli nodweddion archaeolegol a allai fod yn allweddol i’n dealltwriaeth o hanes safle, mae erydiad wedi dylanwadu ar y ffordd y cânt eu canfod a’u rheoli gan bobl heddiw.

Un o nodau CHERISH yw gwella ein dealltwriaeth o’r safleoedd hyn a’u monitro am erydiad arfordirol drwy ddefnyddio sawl techneg arolygu draddodiadol a modern. Ar rai safleoedd mae hyn wedi cynnwys cynnal arolygon dadansoddol o wrthgloddiau, gan ddefnyddio cyfarpar GNSS i gofnodi’r holl nodweddion archaeolegol sydd i’w gweld ar yr wyneb, sef gwrthgloddiau amddiffynnol yn achos caerau pentir yn amlach na pheidio. Yn ogystal â helpu i lywio sut y rheolir safleoedd, mae’r arolygon hyn wedi rhoi cyfle i feddwl amdanynt mewn ffordd fwy beirniadol nag o’r blaen. Ym Mhorth y Rhaw, mae dehongliad mwy ystyrlon o’r amddiffynfeydd mawr yn ychwanegu at y darganfyddiadau a wnaed yn ystod y cloddiadau niferus. Nodwyd sawl cyfnod adeiladu amddiffynfeydd, ynghyd â nifer fawr o safleoedd cytiau posibl, sy’n cyfoethogi ein gwybodaeth am y safle. Yng Nghaerfai Camp, safle lle mae cyfres unigryw o bedwar clawdd a ffos sylweddol, nodwyd o leiaf ddau gyfnod adeiladu amddiffynfeydd. Hefyd mae gwrthgloddiau sy’n gysylltiedig â’r llwybr i mewn i’r gaer yn codi cwestiynau ynghylch swyddogaeth yr amddiffynfeydd. O’u cymharu â’r amddiffynfeydd clawdd a ffos enfawr mae’n ymddangos nad oedd unrhyw adeiladwaith amddiffynnol o amgylch y fynedfa, sy’n gwneud i rywun ofyn a gafodd y gaer ei hadeiladu at bwrpas amddiffyn neu dim ond i greu argraff ar ymwelwyr. Yn ogystal, mae’n ddiddorol nodi bod arolwg geoffisegol a wnaed o du mewn Caerfai Camp yn dangos nad oedd unrhyw olion archaeolegol bron, er i ddaeareg y safle amharu ar y gwaith i raddau.

Awyrlun wedi’i dynnu gan ddrôn o gaer bentir Caerfai Camp sy’n dangos ei hamddiffynfeydd sylweddol ar ffurf cyfres o bedwar clawdd a ffos. Mae llawer o arwynebedd mawr y tu mewn wedi goroesi ond bydd erydiad arfordirol yn torri cryn dipyn o’r gaer bentir i ffwrdd o’r tir mawr yn y man, gan ffurfio ynys newydd.

Awyrlun wedi’i dynnu gan ddrôn o gaer bentir Caerfai Camp sy’n dangos ei hamddiffynfeydd sylweddol ar ffurf cyfres o bedwar clawdd a ffos. Mae llawer o arwynebedd mawr y tu mewn wedi goroesi ond bydd erydiad arfordirol yn torri cryn dipyn o’r gaer bentir i ffwrdd o’r tir mawr yn y man, gan ffurfio ynys newydd.

Rydym wedi gwneud defnydd effeithiol o ddronau hefyd. Yn ogystal â chasglu data man cychwyn hynod fanwl gywir at bwrpas monitro erydiad arfordirol, maen nhw wedi darparu data 3D gwrthrychol y gellir eu defnyddio ar gyfer dehongli a lledaenu archaeolegol pellach. Defnyddiwyd cyfarpar a thechnegau cyffelyb i gofnodi nifer fawr o safleoedd yng Nghymru ac Iwerddon, a chanlyniad y gwaith fu data a chynhyrchion gwych. Yn Sir Benfro, defnyddiwyd y dull hwn i gofnodi Caerfai Camp a Phorth y Rhaw, a bwriedir cynnal mwy o arolygon o safleoedd ym maes tanio Castellmartin megis caerau pentir Linney Head a Flimston Bay. Defnyddiwyd data drôn i greu modelau 3D o safleoedd yng Nghymru ac Iwerddon hefyd, a gellir eu gweld yma.   

Mae gwneud y math hwn o waith ar gaerau pentir Sir Benfro yn bwysig am sawl rheswm. Mae’n gwella ein dealltwriaeth o’r henebion o safbwynt archaeolegol ac yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ohonynt, o ran eu gwerth diwylliannol a’r bygythiadau a wynebant o ganlyniad i newid hinsawdd ac erydiad arfordirol. Mae arolygon ac ymchwil archaeolegol yn helpu i egluro hanes yr henebion sydd bellach yn sefyll yn unig ar hyd ein harfordiroedd, ac mae monitro erydiad yn dangos sut mae’r caerau’n newid ac yn cofnodi’r effeithiau ffisegol ar yr archaeoleg. Mae codi ymwybyddiaeth o storïau archaeolegol a materion newid hinsawdd yn bwysig wrth i gymdeithas symud yn ei blaen ac wrth i ddiogelu safleoedd archaeolegol lithro i lawr yr agenda. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos caerau pentir Sir Benfro sy’n tystio i hanes cyfoethog y rhanbarth. Byddai eu colli i grafangau didostur newid hinsawdd cyn i ni gael cyfle i’w deall yn llawn yn drychineb lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y tîm CHERISH yn parhau i ymchwilio i’r safleoedd yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Gwneud arolwg archaeolegol o’r gwrthgloddiau ym Mhorth y Rhaw. Drwy ddefnyddio cyfarpar arolygu GNSS, mae CHERISH wedi gallu gwneud cofnod manwl dros ben o henebion sydd dan fygythiad, gan eu cofnodi at ddibenion gwneud darganfyddiadau archaeolegol ac er mwyn monitro erydiad yn y tymor hir.

Gwneud arolwg archaeolegol o’r gwrthgloddiau ym Mhorth y Rhaw. Drwy ddefnyddio cyfarpar arolygu GNSS, mae CHERISH wedi gallu gwneud cofnod manwl dros ben o henebion sydd dan fygythiad, gan eu cofnodi at ddibenion gwneud darganfyddiadau archaeolegol ac er mwyn monitro erydiad yn y tymor hir.

Dan Hunt – Ymchwilydd gyda’r Prosiect CHERISH