Blog -Patrick Robson – Ymchwilydd Palaeoamgylcheddol CHERISH (Prifysgol Aberystwyth)

A’r tywydd mor braf, bu’n fwy o rwystredigaeth byth methu â gwneud gwaith maes yn Iwerddon a Chymru fel yr oeddem wedi bwriadu ei wneud, ond nid yw hyd yn oed wyddoniaeth fawr cyn bwysiced ag aros gartref ar hyn o bryd. Sut bynnag, mae’r cloi-lawr wedi fy ngalluogi i gyfrif samplau o ronynnau paill o graidd o Lyn Maelog (Rhosneigr, Môn) yr oeddwn wedi’u prosesu ym mis Ionawr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf buom yn ymchwilio i hanes palaeoamgylcheddol Llyn Maelog ac mae wedi bod yn ddilyniant gwych i weithio arno gan ei fod yn cynnig tystiolaeth o newidiadau gwirioneddol gyffrous.

Llyn Maelog, Môn gyda Rhosneigr ar y tir uwch i’r gorllewin.  Llun drwy gwrteisi Toby Driver

Ffigur 1 Llyn Maelog, Môn gyda Rhosneigr ar y tir uwch i’r gorllewin. Llun drwy gwrteisi Toby Driver

Rydym wedi cael 6 dyddiad radiocarbon sy’n dangos bod y cofnod gwaddodol ymhell dros 12,000 o flynyddoedd oed! Hyd yma, rydym wedi edrych ar gyfansoddiad ffisegol y craidd, wedi astudio’r geocemeg yn hynod o fanwl gyda chymorth ein sganiwr fflwroleuedd pelydr-x, ac wedi dadansoddi’r cofnod diatomau (algâu microsgopig sy’n byw ym mhob amgylchedd dŵr). Fel y planhigion yn eich gardd, mae gan wahanol rywogaethau o ddiatomau wahanol raddau o oddefiant i oleuni, dyfnder dŵr, tymheredd-halwynedd, a’r maetholion sydd ar gael, ac felly gallant adlewyrchu newidiadau ffisegol a chemegol yn y llyn.

Mae’r dystiolaeth yn datgelu i’r llyn ddatblygu’n gynefin gwlyptir, yn rhannol o leiaf, yn ystod y cyfnod Holocene cynnar. Yna, tua 7,000 o flynyddoedd yn ôl, boddwyd y coetir gan y môr a lladdwyd yr holl lystyfiant. Ffurfiodd lagŵn heli a oroesodd am 500 i 1000 o flynyddoedd. Yn y man, fe gafodd y môr ei wahanu oddi wrth y llyn ac fe drodd yn amgylchedd dŵr croyw eto, ac mae’n parhau felly heddiw.
Rydw i’n ymchwilio i’r cofnod paill sydd wedi’i ddal yn y llyn er mwyn ceisio deall y newidiadau yn y llystyfiant o’i amgylch, yn enwedig mewn ymateb i gael ei foddi gan y môr. Mae cyfrif paill yn broses araf – rhaid i mi adnabod (ac nid yw hyn yn hawdd bob amser!) a chyfrif o leiaf 300 o ronynnau unigol o bob sampl. Gan ddibynnu ar y nifer yn y sampl a’u cyflwr, fy nod yw cynhyrchu o leiaf 2 sleid y dydd. Gan fod angen 60 sleid o’r dilyniant, mae hynny’n golygu rhythu i lawr y microsgop am un mis calendr!

Cyfrif paill gartref – mae eitemau hanfodol yn cynnwys paneidiau dirifedi o goffi

Ffigur 2 Cyfrif paill gartref – mae eitemau hanfodol yn cynnwys paneidiau dirifedi o goffi

Mae gronynnau paill yn amrywio o ran maint o 10µm i 130µm, felly defnyddiwn ficrosgop deulygad i weld y sampl sydd wedi cael ei gymysgu â jeli glyserin wedi’i lifo a’i fowntio ar sleid wydr. Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau yn Llyn Maelog tua 30µm mewn diamedr, a’r coed mwyaf cyffredin yw onnen, derwen, gwernen, bedwen, collen ac amryfal rywogaethau o laswellt. Defnyddiwn gyfeirlyfrau a chronfeydd data o ddelweddau i’n helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau o baill. Nid yw hyn yn hawdd weithiau gan fod paill, er y gall wrthsefyll pydru, yn gallu cael ei ddiraddio gan facteria, ei grychu, neu ei guddio y tu ôl i falurion, neu orwedd mewn safle lletchwith.

Detholiad o ronynnau paill o Lyn Maelog:  Pinwydden yr Alban, Collen, Bedwen, Blodyn Taranau, Dant y Llew, Gwernen

Ffigur 3 Detholiad o ronynnau paill o Lyn Maelog: (chwith uchaf i’r de) Pinwydden yr Alban, Collen, Bedwen; (rhes isaf) Blodyn Taranau, Dant y Llew, Gwernen

Profiad cyffrous yw symud drwy’r dilyniant a gweld y cyfrannau o beilliau gwahanol yn newid, ond bydd yn rhaid cyfrif yr holl samplau a phrosesu’r data cyn gweld y newidiadau yn eu cyfanrwydd – gobeithiwn gwblhau’r gwaith hwn yn gynnar ym mis Mai ar gyfer Llyn Maelog.