Cystadleuaeth “ble mae’r drôn?” Rhif 1

Cyfle i ennill jig-so argraffiad cyfyngedig o arlunwaith CHERISH!
Dyddiad Cau’r Gystadleuaeth: 23/05/2020

Cyfarwyddiadau (fersiwn print)

  1. Argraffwch daflen y gystadleuaeth
  2. Llenwch eich manylion cysylltu
  3. Rhowch 10 croes ar y ffoto lle rydych chi’n meddwl mae’r drôn
  4. Sganiwch neu tynnwch lun eich ffurflen gystadlu a’i e-bostio i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
  5. Ymlaciwch a gobeithiwch mai chi yw’r enillydd!

Cyfarwyddiadau (fersiwn digidol)

  1. Agorwch daflen y gystadleuaeth mewn meddalwedd golygu delweddau (GIMP, Photoshop)
  2. Llenwch eich manylion cysylltu
  3. Rhowch 10 croes ar y ffoto lle rydych chi’n meddwl mae’r drôn (defnyddiwch lythyren “x”)
  4. Arbedwch y ddelwedd hon a’i e-bostio i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
  5. Ymlaciwch a gobeithiwch mai chi yw’r enillydd!

Rheolau

  • Un ymgais fesul cyfeiriad e-bost yn unig.
  • Cyhoeddir y canlyniadau ar 27/05/2020.
  • Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dangosir yr un llun “Ble mae’r Drôn?” i banel o feirniaid, sef gweithredwyr dronau CHERISH.
  • Ni fydd ond un enillydd. Os bydd dau neu fwy o chwaraewyr yr un mor agos, dewisir yr enillydd drwy edrych ar gynnig agosaf nesaf y chwaraewyr dan sylw.

SPOT THE DRONE ENTRY FORMLawrlwytho