Cloddiad hanesyddol yn datgelu cyfrinachau bryngaer arfordirol hynafol Dinas Dinlle

Dinas Dinlle a’r cyffiniau yn ystod sychder 201

Dinas Dinlle a’r cyffiniau yn ystod sychder 2018, yn edrych o’r gorllewin. Hawlfraint y Goron: CHERISH AP_2018_2346.

Yr wythnos ddiwethaf cwblhawyd y cloddiad archaeolegol cyntaf erioed yng nghaer arfordirol gynhanesyddol Dinas Dinlle, heneb aruthrol o bwysig sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bu archaeolegwyr y Prosiect CHERISH, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gweithio ar y safle am dair wythnos yn ystod mis Awst mewn ymdrech i ddatgelu cyfrinachau’r gaer sydd wedi’u cuddio ers canrifoedd lawer. Hefyd cafodd rhyw hanner cant o wirfoddolwyr o’r gymuned leol gyfle i faeddu dwylo wrth ein helpu i ddarganfod hanes y gaer. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonynt gymryd rhan mewn cloddiad, ac erbyn y diwedd roeddynt wedi dysgu cryn dipyn am eu hanes lleol ac wedi meithrin sgiliau archaeolegol allweddol y gallant eu defnyddio mewn cloddiadau ar safleoedd eraill yn y cyffiniau. Mae’r hyn a ddarganfuwyd ganddynt o dan y ddaear wedi ychwanegu’n fawr at yr hyn a wyddom am y safle rhyfeddol hwn...

 

Ar ôl i’r cloddwyr symud y tywarch a’r uwchbridd, roedd yr archaeolegwyr yn wynebu sefyllfa annisgwyl. Daeth yn amlwg bod tunelli o dywod yn gorchuddio’r haenau a nodweddion archaeolegol. Roedd y tywod yn fwyaf trwchus yn y ddwy ffos y tu mewn i’r gaer ac mewn mannau ni chafwyd hyd i’r olion archaeolegol cyntaf nes cloddio i lawr 1.5m! O ystyried bod gan yr heneb wrthgloddiau mor weladwy, nid oeddynt wedi disgwyl y byddai’r archaeoleg mor ddwfn o dan y ddaear. Roedd hefyd ddyddodion teneuach o dywod ar draws y ffosydd yn y cae deheuol a oedd i bob golwg yn gorchuddio cyfundrefnau caeau ôl-ganoloesol.

Cloddiad i lawr at y clog-glai naturiol
Cloddiad i lawr at y clog-glai naturiol. Mae’r toriad hwn yn dangos sawl haenlin pridd a haenen o dywod yn y cae i’r de o’r gaer a ddyddodwyd o bosibl gan stormydd mawr. Hawlfraint y Goron: CHERISH.

Roedd nodweddion archaeolegol gwych wedi’u claddu o dan yr holl dywod a oedd yn dangos tystiolaeth glir o fywyd yn y gaer ac o’i chwmpas. Credir bod y fryngaer yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn, ac mae darganfyddiadau yn y gorffennol yn awgrymu bod pobl yn ei defnyddio yn ystod y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig. Hefyd mae enwogrwydd y gaer yn y Mabinogi yn awgrymu bod anheddiad yma ar ddechrau’r Oesoedd Canol. Ar sail tystiolaeth y tŷ crwn mawr o gerrig, y rwbel adeiladu, y terfynau caeau a’r teilchion crochenwaith o wahanol ddyddiadau a ddatguddiwyd yn ystod y cloddio, gellir tybio bod pobl yn byw ac yn amaethu yma dros gyfnod maith.

 Mur gogleddol y tŷ crwn a ddatguddiwyd yn ystod y cloddio

Mur gogleddol y tŷ crwn a ddatguddiwyd yn ystod y cloddio. Ymddengys i’r muriau cadarn gael eu hadeiladu o gerrig mawr hyd at 1.5m o led. Hawlfraint y Goron: CHERISH.

Y darganfyddiad mwyaf trawiadol o lawer oedd y tŷ crwn mawr o gerrig a ddadorchuddiwyd y tu mewn i’r gaer. Mae’n 13m o ran diamedr a chredir mai hwn yw un o’r rhai mwyaf o’i fath i’w ddarganfod yng Nghymru ac efallai’r un sydd fwyaf mewn perygl oddi wrth erydiad yn unman yn y DU. Mae’r muriau cerrig eu hunain yn arbennig iawn, yn 2.4m o drwch a rhyw 1.5m o uchder. Credir bod dwy haen o gerrig wedi’u claddu o hyd o dan y lefel a gyrhaeddwyd gan yr archaeolegwyr. Yn anffodus nid oeddynt yn gallu cyrraedd llawr yr adeilad oherwydd prinder amser, felly mae’n anodd bod yn sicr ynghylch ei ddyddiad a’i swyddogaeth, er dod o hyd i ychydig o deilchion o grochenwaith Rhufeinig yn agos at y muriau.

Mae’r darganfyddiad wedi codi sawl cwestiwn: pryd cafodd y tŷ ei adeiladu a beth yw ei le yn hanes y gaer? A gafodd ei adeiladu i wrthsefyll stormydd mawr, ac a roddwyd y gorau i fyw ynddo gan iddo gael ei foddi gan dywod? Dyma’r cwestiynau yr oedd yr archaeolegwyr a’r gwirfoddolwyr yn pendroni yn eu cylch wrth iddynt wylio’r ffosydd yn cael eu hôl-lenwi ar y diwrnod olaf. Gobeithiwn gael rhai atebion i’r cwestiynau hyn wrth ddadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd hyd yma, ond mae’n bosibl mai cloddio pellach fydd yr unig ffordd o ddarganfod holl hanes yr adeiladwaith.

 Ail-gread o’r tŷ crwn y cafodd rhan ohono ei gloddio, yn edrych o’r gogledd.

Ail-gread o’r tŷ crwn y cafodd rhan ohono ei gloddio, yn edrych o’r gogledd. Mae’r darlun yn dangos sut y gallai fod wedi edrych, gyda cherrig llydan yn cynnal to conigol uchel. Rydym wedi dyfalu ble roedd y porth a llawer o’r manylion eraill a ddangosir. Crëwyd gan Toby Driver o’r tîm CHERISH. Hawlfraint: Toby Driver.

Mewn ail ffos a agorwyd i’r de o’r tŷ crwn datgelwyd olion archaeolegol wedi’u claddu’n ddwfn o dan dywod. Cafodd sawl haen a nodwedd archaeolegol ei darganfod a’i chloddio ond, unwaith eto, roedd amser yn ein herbyn. Daethpwyd o hyd i grochenwaith a oedd o bosibl yn Rhufeinig, gan ategu dehongliadau blaenorol bod y gaer yn cael ei defnyddio adeg y Rhufeiniaid. Hefyd darganfuwyd gwrthrych haearn â rhwd trwchus drosto ar waelod ffos fach yr oeddem wedi’i chloddio. Mae ei siâp yn awgrymu ei fod yn flaen gwaywffon, ond bydd angen ei ddadansoddi ymhellach i ddarganfod ei wir swyddogaeth. Mae’r nifer mawr o olion archaeolegol yn y tyllau prawf bach yn y ffos hon yn awgrymu bod gan y lleoliad hwn yn y gaer botensial archaeolegol mawr. Mae’n debyg bod olion mwy o dai crwn a nodweddion eraill sy’n gysylltiedig â’r anheddiad yn cael eu gwarchod gan y tywod dwfn.

Mae’r ffaith bod muriau cerrig y tŷ crwn – a nodweddion eraill sydd eto i’w darganfod mae’n debyg – mewn cyflwr cystal yn awgrymu bod tywod wedi gorchuddio’r safle yn gyflym iawn, a hynny yn ystod cyfnodau o stormydd ffyrnig mae’n debyg. Mae dogfennau hanesyddol yn disgrifio tir yn cael ei orchuddio gan dywod nid nepell i ffwrdd yn Niwbwrch ac Aberffro yn ne-orllewin Môn yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae gwyddonwyr CHERISH o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i newid amgylcheddol yn yr ardal hon dros y canrifoedd ac maen nhw wedi darganfod cyfnodau cynharach o ddyddodi tywod mewn creiddiau gwaddod o Lyn Coron, ger Aberffro. Mae CHERISH bellach yn canolbwyntio ar le Dinas Dinlle yn y stori hon. Mae’r tîm yn defnyddio dyddio ymoleuedd i benderfynu pa bryd, a pha mor gyflym, y cafodd y dystiolaeth archaeolegol ei chladdu dan y tywod. Cymerwyd samplau ar wahanol ddyfnderau o’r ddwy ffos a gloddiwyd y tu mewn i’r gaer (pum sampl o bob un), gan ganolbwyntio hefyd ar gyd-destun darganfyddiadau allweddol fel y gwrthrych haearn a ddisgrifiwyd uchod. Caiff y rhain eu prosesu yn ystod y misoedd nesaf yn Labordy Ymchwil Ymoleuedd Aberystwyth, ynghyd â samplau o’r ymchwiliad i wyneb y clogwyn (y credwn y byddant yn ildio gwybodaeth am darddiad rhewlifol y safle). Dewch yn ôl i weld y canlyniadau...

 Yr Athro Helen Roberts o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd samplau ymoleuedd o ran o’r ffos wrth ymyl mur deheuol y tŷ crwn

Yr Athro Helen Roberts o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd samplau ymoleuedd o ran o’r ffos wrth ymyl mur deheuol y tŷ crwn. Gobeithir y bydd y samplau hyn yn ein helpu i ddarganfod pryd y cafodd yr adeilad ei orchuddio gan dywod. Hawlfraint: CHERISH.

Mae mwy o waith yn cael ei wneud hefyd ar amgylcheddau’r gorffennol yn y gaer ac o’i chwmpas. Cymerwyd creiddiau gwaddod er mwyn gallu gwneud dadansoddiadau paill, diatom a chemegol a chynhyrchu llinell amser ar gyfer newid amgylcheddol. Mae dyddiadau radiocarbon cychwynnol o waelod y creiddiau yn dangos eu bod yn cwmpasu’r 3,000 o flynyddoedd diwethaf yn fras. Byddwn yn ymchwilio i ran bwysig arall o’r stori – y twyni tywod ym Morfa Dinlle i’r gogledd o’r gaer – yn nes ymlaen eleni. Yma, mae’r tîm CHERISH yn cydweithio gyda staff o Brifysgol Birkbeck yn Llundain, sydd wedi gwneud arolygon geoffisegol o’r blaen, i ymchwilio i ddatblygiad y cefnennau traeth a’r gyfundrefn dwyni. Bydd meithrin dealltwriaeth fwy cyflawn o’r dirwedd ehangach yn ein helpu i ddehongli’r dystiolaeth archaeolegol yn Ninas Dinlle – a phwysigrwydd newid amgylcheddol ac effeithiau cyfnodau o stormydd yn ei hanes.

 elen yn tynnu sampl ymoleuedd o ffos y tu mewn i’r gaer.

Helen yn tynnu sampl ymoleuedd o ffos y tu mewn i’r gaer. Cymerwyd y sampl yn agos at y man lle darganfuwyd gwrthrych haearn diddorol. Llun: Sarah Davies.

Roedd llawer i’w weld hefyd yn y cae i’r de o’r gaer lle cafodd ffosydd eu cloddio i roi prawf ar nifer o anomaleddau a nodwyd yn ystod arolwg geoffisegol yn 2018. Mae llawer o’r nodweddion a ddarganfuwyd bryd hynny yn cyd-fynd â therfynau y gellir eu gweld ar fap degwm 1849, sy’n dangos rhaniadau tir ac adeiladweithiau o bwys ar yr adeg y cafodd ei gynhyrchu. Ond roedd nifer mawr o nodweddion nad oeddynt yn dilyn terfynau caeau 1849, ac a oedd o bosibl yn dynodi nodweddion cynharach yn ymwneud â defnyddio’r gaer. Cadarnhawyd bod llawer o’r nodweddion a ddadorchuddiwyd yn perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol gan fod cryn dipyn o grochenwaith Bwcle yno a gynhyrchwyd ym Mwcle, Sir y Fflint o’r Oesoedd Canol hyd at yr ugeinfed ganrif. Darganfuwyd trwch o rwbel cerrig yn y ffos fwyaf deheuol sydd o bosibl yn gysylltiedig ag adeiladwaith y gellir ei weld ar y map degwm. Yn ystod dyddiau olaf y cloddio fe ddaethpwyd o hyd i grochenwaith Rhufeinig yn un o’r nodweddion hefyd, sy’n awgrymu bod gweithgarwch yn gysylltiedig â’r cyfnod Rhufeinig yn ymestyn y tu allan i’r gaer. Rhaid gofyn felly a oedd pobl yn byw ar y tir o amgylch y gaer ac yn ei amaethu yn ystod y cyfnod hwn. Nid oedd digon o amser i ymchwilio ymhellach, ond mae’n bosibl bod tystiolaeth dros anheddu cynhanesyddol a Rhufeinig yn ddyfnach i lawr o dan fwy o dywod.

 Gwirfoddolwyr a staff siriol

Gwirfoddolwyr a staff siriol! Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth y grŵp anhygoel o wirfoddolwyr a weithiodd drwy’r gwynt a’r glaw i ddatguddio’r archaeoleg. Llun: Toby Driver.

Mae’r cloddiad cychwynnol hwn yn Ninas Dinlle wedi datgelu rhan fach yn unig o hanes cyffrous y safle ac wedi dangos bod ganddo rai cyfrinachau sydd wedi’u claddu’n ddwfn iawn, ac na fydd yn eu hildio ar chwarae bach! Wrth i’r archaeolegwyr gwylio’r ffosydd lle buont yn gweithio’n ddiflino yn cael eu llenwi, roeddynt yn gallu myfyrio ar yr hyn yr oeddynt wedi’i ddarganfod yn ystod tair wythnos o gloddio. Pam codi caer mor anferth gydag adeiladweithiau mor gadarn a chelfydd eu hadeiladwaith y tu mewn iddi? A oedd y trigolion yn eu hamddiffyn eu hunain rhag llwythau gelyniaethus gerllaw neu a oeddynt yn ymladd brwydr hir yn erbyn gwyntoedd didrugaredd, stormydd a’r amgylchfyd cyfnewidiol o’u cwmpas? Mae’n bosibl na fyddwn byth yn gallu ateb y cwestiynau hyn, ond yr hyn sy’n sicr yw bod y cloddiad hwn wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o safle treftadaeth gwerthfawr sydd ar hyn o bryd yn ymladd ei frwydrau ei hun yn erbyn newid hinsawdd, codiadau yn lefel y môr, ac erydiad difrifol.