Dal y llanw ar safleoedd ein llongddrylliadau monitro man cychwyn

Ar 11 Medi teithiodd aelodau tîm CHERISH y Comisiwn Brenhinol i dde a gogledd Cymru i ddal llanw 0.2m isel iawn a chofnodi llongddrylliadau ac archaeoleg rynglanw sydd dan y don fel rheol.

Yn bell i’r de-orllewin y mae Traeth Albion, Marloes, a enwyd ar ôl llongddrylliad sy’n gorwedd o hyd yn y tywod. Stemar olwyn bren oedd yr ALBION a adeiladwyd ym Mryste ym 1831. Byddai’n teithio’n rheolaidd rhwng Bryste a Cork. Un diwrnod anffodus ym mis Ebrill 1837 fe drawodd graig yn Jack Sound, ardal dwyllodrus o ddŵr rhwng y tir mawr ac Ynys Sgomer, ac aeth yn sownd ar y lan ym Marloes. 

Christopher Jessop ac aelodau o’i grŵp gyda’r tîm CHERISH ar Draeth Albion, yng nghysgod crancsiafft drawiadol yr ALBIONChristopher Jessop ac aelodau o’i grŵp gyda’r tîm CHERISH ar Draeth Albion, yng nghysgod crancsiafft drawiadol yr ALBION

 Mae Christopher Jessop wedi ymchwilio i’r ALBION a bydd yn monitro’r llongddrylliad yn ofalus ar ôl stormydd mawr gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol. Treuliodd Patrick a Louise o CHERISH ddiwrnod ar y traeth yn arolygu a chofnodi’r grancsiafft drawiadol sy’n sefyll o hyd ar y traeth, a rhannau o ffrâm gynnal y grancsiafft, piston y pwmp aer a gweddillion eraill y peiriant ager. Bydd Christopher a’i grŵp yn parhau i fonitro’r llongddrylliad er mwyn cofnodi unrhyw newidiadau yn sgil stormydd.

Cofnodi olion darniog peiriant ager yr ALBION ar ddistyllCofnodi olion darniog peiriant ager yr ALBION ar ddistyllModel ffotogrametrig 3D o biston y pwmp aer yn sownd mewn creigiau ger y traethModel ffotogrametrig 3D o biston y pwmp aer yn sownd mewn creigiau ger y traeth

Ar yr un diwrnod yng ngogledd Cymru, roedd Dan a Toby ar draeth The Warren yn Aber-soch, ym mhen gorllewinol Penrhyn Llŷn. Mewn ardal o fawn rhynglanw ar y traeth, a ddaeth i’r golwg ar ôl stormydd ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae olion traed anifeiliaid cynhanesyddol i’w gweld, gan gynnwys ceirw a bualod mawr. Ar sail astudiaethau o amgylch arfordir Cymru, mae’n bosibl bod y rhain yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig diweddar oddeutu 7000 o flynyddoedd yn ôl. Mae olion traed Aber-soch ymhlith y pellaf i’r gogledd a gofnodwyd yng Nghymru.

Gerllaw y mae llongddrylliad o long fach, y credir mai’r FOSIL ydyw, a ddaeth i’r lan yma ym 1889. Daeth llawer o’r llong i’r golwg yn dilyn stormydd 2013 ac fe gaiff ei monitro’n rheolaidd i astudio’r difrod mae stormydd yn ei wneud yn ystod y Prosiect CHERISH.

Dogfennu newidiadau yn y llongddrylliad pren, y credir mai’r FOSIL ydyw, ar draeth The Warren, Aber-socDogfennu newidiadau yn y llongddrylliad pren, y credir mai’r FOSIL ydyw, ar draeth The Warren, Aber-soc

Wrth ddefnyddio drôn i wneud arolwg o’r awyr, cafodd Dan a Toby eu synnu pan welsant ail longddrylliad, nas cofnodwyd o’r blaen, pan oedd y llanw ar ei isaf, ychydig o gannoedd o fetrau i ffwrdd o’r FOSIL. Mae winsh ysblennydd yn gorwedd wrth ymyl y llongddrylliad ‘newydd’, y mae pobl leol yn ei gofio’n dod i’r golwg o bryd i’w gilydd. Hyd yn oed wrth i Dan arolygu’r llongddrylliad, fe drodd y llanw a dechreuodd asennau’r llong ddiflannu eto o dan y dŵr.

Llongddrylliad newydd ei ddarganfod yn agos at y llinell lanw isaf ar draeth The WarrenLlongddrylliad newydd ei ddarganfod yn agos at y llinell lanw isaf ar draeth The Warren

Y winsh ysblennydd sy’n gorwedd wrth ymyl y llongddrylliad newydd ei ddarganfod ar draeth The WarrenY winsh ysblennydd sy’n gorwedd wrth ymyl y llongddrylliad newydd ei ddarganfod ar draeth The Warren