Ymchwil archifol

Gall dogfennau hanesyddol ddarparu disgrifiadau manwl o arsylwadau ar y tywydd, yn ogystal â dyddiadau cywir. Gellir defnyddio'r rhain i ymestyn cofnodion o arsylwadau offerynnol, ac i galibro a chynyddu'r hyder mewn archifau naturiol o gofnodion am natur amrywiol yr hinsawdd, er enghraifft y rheiny o gylchoedd coed neu waddodion. O ddiddordeb arbennig i CHERISH y mae arsylwadau meteorolegol sydd i'w gweld mewn llyfrau log porthladdoedd, gwylwyr y glannau a goleudai, lle y câi darlleniadau o wasgedd, cyfeiriad y gwynt, glawiad a thymheredd eu nodi sawl gwaith y dydd yn aml, a hynny dros nifer o flynyddoedd. Nid yw llawer o ffynonellau wedi cael eu digideiddio eto na'u trawsgrifio i fformat y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil hinsoddol. Fodd bynnag mae yna ymdrech enfawr i achub data ar y tywydd, a hynny trwy fentrau gwyddoniaeth i ddinasyddion, er enghraifft Prosiect Old Weather a Weather Rescue. Ein nod yw adfer cofnodion o'r ardaloedd y mae prosiect CHERISH yn eu hastudio, i'w dadansoddi ac i sicrhau eu bod ar gael i'r gymuned wyddonol.

Eglwys Sant Brynach, Cwm yr Eglwys, Sir Benfro. Gwnaed difrod i'r eglwys yn ystod aml i storm, ond cafodd ei dinistrio yn ystod storm y Royal Charter, 25-26 Hydref, 1859.Eglwys Sant Brynach, Cwm yr Eglwys, Sir Benfro. Gwnaed difrod i'r eglwys yn ystod aml i storm, ond cafodd ei dinistrio yn ystod storm y Royal Charter, 25-26 Hydref, 1859.

Nid yn unig y mae ffynonellau archifol yn cyfrannu at y gwaith o lunio hanes yr hinsawdd a'r tywydd dros amser, maent hefyd yn cynnig naratif ddyfnach o brofiad unigolyn neu gymuned o dywydd eithafol. Yma, gallwn edrych ar y ffyrdd y bu i bobl ymateb i ddigwyddiadau penodol, pa mor barod yr oeddent, a'r mathau o strategaethau ymdopi a fabwysiadwyd ganddynt. Mae yna gyfoeth o ddeunydd yn cael ei gadw yn ein storfeydd cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cenedlaethol Iwerddonyn ogystal ag mewn nifer o archifau a llyfrgelloedd rhanbarthol. Mae aelodau o dîm CHERISH wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio cronfa ddata (TEMPEST) o adroddiadau naratif o eithafion tywydd hanesyddol ledled y Deyrnas Unedig, a hynny yn rhan o brosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Byddwn yn adeiladu ar hyn, yn ogystal ag ymchwil flaenorol yn Iwerddon (e.e. Sweeney, 2002), trwy gasglu tystiolaeth am stormydd hanesyddol, llifogydd a newid arfordirol a'r effeithiau cysylltiedig, a hynny o amrywiaeth o ffynonellau tebyg i ohebiaeth bersonol a dyddiaduron; teithluniau; adroddiadau papurau newydd; llyfrau log; mapiau; siartiau a ffynonellau llenyddol.

 diary of Joseph Jenkins of TrecefelMae tudalen gyntaf dyddiadur Joseph Jenkins o Drecefel, Tregaron yn Sir Aberteifi, ddydd Llun 7 Ionawr 1839, yn disgrifio ‘corwynt llwyr sy'n chwythu coed, toeau tai ac yn y blaen’. Yn ystod y storm ar 6-7 Ionawr 1839, lladdwyd llawer o bobl ac achoswyd difrod ofnadwy yn Iwerddon; caiff y noson ei chofio fel ‘Noson y Gwynt Mawr’. Ni chafodd effeithiau'r storm yng Nghymru eu cofnodi cystal.