Arolwg o'r Awyr

Toby Driver, mewn awyren ysgafn, yn cynnal arolwg o'r awyr dros arfordir WexfordToby Driver, mewn awyren ysgafn, yn cynnal arolwg o'r awyr dros arfordir Wexford

Mae yna sawl defnydd i awyrluniau, ac nid yw'r ymadrodd 'cyfwerth llun a llith' fyth yn fwy gwir nag yn achos awyrluniau. Maent yn darparu golwg o'r dirwedd a chyd-destun y safle, y blociau adeiladu ar gyfer nodweddion eang a bras y dirwedd, ac yn fodd i ddeall y dirwedd hanesyddol. Mae golygfa trem aderyn yn ffordd bwerus o archwilio safleoedd a thirweddau, ac, yn achos rhai mathau o safleoedd (e.e. olion cnydau), awyrluniau yw'r unig ffordd effeithiol o ddarganfod henebion, a'u cofnodi. Y tu hwnt i'w defnydd archaeolegol ar gyfer cofnodi yn ystod y prif archwiliad strategol, a dehongli a mapio, maent hefyd yn darparu deunyddiau rhagorol ar gyfer addysgu a darlunio.

Mae i'r defnydd o awyrluniau mewn archaeoleg hanes sy'n ymestyn yn ôl fwy na 100 mlynedd, ac fe'i cydnabyddir yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gofnodi safleoedd a thirweddau. Mae archifau o awyrluniau yn ffynhonnell gyfoethog ar gyfer adnabod henebion a fyddai, fel arall, yn anhysbys. Maent yn gallu darparu cofnodion unigryw o dirweddau a safleoedd sydd wedi cael eu newid neu eu dinistrio, tra bo awyrluniau newydd yn darparu dull o gofnodi yn ystod prif archwiliadau strategol archaeolegol. Mae awyrluniau yn ganlyniad i ddwy ffordd o gofnodi'r ddaear. Yn gyntaf, maent yn ganlyniad i arolwg arferol i dynnu lluniau o ardal ragddiffiniedig o dir (e.e. cwmpas fertigol yr ardal, a hynny fel arfer ar gyfer gwaith cynllunio/cartograffeg/gwybodaeth filwrol), ac, yn ail, maent yn ganlyniad i archwiliadau strategol archaeolegol gan arsylwr yn yr awyr sy'n tynnu lluniau'r gwrthrychau y mae'n eu gweld ac yn gwybod eu bod o ddiddordeb.

Awyrluniau

Delwedd o Ynys Sgomer, Cymru o ganlyniad i arolwg o'r awyrDelwedd o Ynys Sgomer, Cymru o ganlyniad i arolwg o'r awyr

Mae archwiliadau strategol o'r awyr yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth ledled y byd, ac mae'n rhan o'r ddisgyblaeth ehangach o 'synhwyro o bell', sef cynnal arolygon o archaeoleg yn y dirwedd heb ei chyffwrdd, fel y byddai rhywun yn ei wneud wrth gloddio. ‘Mae 'archaeoleg o'r awyr' yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n ymwneud ag arolygon a chofnodi, a hynny o edrych ar y dirwedd oddi uchod a thynnu lluniau, i ddehongli a mapio safleoedd o'r lluniau a dynnwyd. Mae awyrluniau sydd wedi'u cipio o awyrennau adenydd sefydlog yn parhau i fod yn un o'r adnoddau mwyaf grymus i ddogfennu a monitro treftadaeth arfordirol Cymru ac Iwerddon. Mae awyrluniau 'ar osgo' yn cael eu cymryd ar ongl i'r ddaear er mwyn rhoi darlun mwy realistig o safleoedd a henebion yn eu tirwedd. Mae ffotograffau 'fertigol' o'r awyr yn cael eu tynnu trwy edrych yn syth i lawr. Maent yn edrych fwy fel map.

Mae cynnal arolygon gan ddefnyddio awyren ysgafn yn golygu y gellir tynnu lluniau cannoedd o filltiroedd o arfordir mewn dim ond 3-4 awr. Mae'r persbectif dyrchafedig yn helpu i egluro cynllun henebion cymhleth, neu ddangos nodweddion ar safle a allai fod yn guddiedig o'r golwg neu'n anodd cyrraedd atynt ar y llawr.

Bydd amseroedd teithiau hedfan yn amrywio yn ôl y tymhorau. Mae'r gaeaf a'r gwanwyn yn ddelfrydol ar gyfer tynnu lluniau gwrthgloddiau sy'n sefyll gan fod y llystyfiant byr a'r golau isel yn galluogi i holl fanylion y safle gael eu hamlygu. Mae amodau golau ffat neu gymylog yn cael eu ffafrio i gofnodi henebion ar gyfer modelu 3D Structure from Motion. Gall teithiau hedfan yn ystod hafau sych ddatgelu 'olion cnydau' o elfennau claddedig neu goll safle archaeolegol, a hynny, yn aml, gydag eglurder rhyfeddol.

Mae digon i'w weld wrth hedfan dros y parth arfordirol, rhynglanwol a morwrol. Yn ogystal ag archwiliadau strategol ar gyfer trapiau pysgod pren a charreg, neu longddrylliadau a llongau moelion, a'u darganfod, gellir ymestyn y gwaith chwilio yn llwyddiannus am beth pellter alltraeth trwy foroedd bas ar ddiwrnodau tawel iawn, pan fo'r dyfroedd arfordirol yn gallu bod yn rhyfeddol o glir. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cofnodi llongddrylliadau, a all fod yn arbennig o amlwg yn erbyn gwely môr tywodlyd.

Bydd lluniau sy'n cael eu tynnu yn ystod y prosiect CHERISH o safleoedd archaeolegol arfordirol sy'n erydu yn aros fel cofnod o gyflwr heneb ymhell i'r dyfodol, gan alluogi i gymhariaeth gael ei gwneud ag awyrluniau hanesyddol a dynnwyd o'r 1940au ymlaen, ac i newidiadau gael eu siartio yn y dyfodol. Mae meddalwedd bwerus hefyd yn galluogi i awyrluniau unigol, sy'n cael eu tynnu o drôn neu awyren ysgafn yn troi o amgylch safle, gael eu cyfuno i ffurfio model 3D cylchdroadwy hynod gywir (proses a elwir yn Adeiledd o Fudiant (Structure from Motion, SfM)).

Olion cnydau

Olion cnydau

Pan fo nodweddion archaeolegol wedi'u claddu, gallant effeithio ar gyfradd twf y cnydau uwch eu pen. Mae presenoldeb nodweddion tebyg i sylfeini waliau wedi'u claddu, neu arwynebau llawr cywasgedig, yn arwain at ostyngiad yn nyfnder y pridd a lefelau lleithder is na'r tir cyfagos. Mae tuedd i gnydau uwchben y nodweddion hyn fod â chyfraddau twf is o gymharu â'r planhigion sy'n tyfu mewn man lle nad oes yna unrhyw weithgarwch archaeolegol, gan ffurfio "olion cnydau negyddol".

Mewn ardaloedd cyferbyniol, mae ffosydd, pyllau a nodweddion eraill sydd wedi cael eu torri i'r isbridd yn llenwi dros amser. Mae'r cynnydd cymharol hwn yn nyfnder y pridd, a'r potensial i fwy o leithder fod yn y pridd, yn galluogi'r cnydau uwch ei ben i dyfu'n uwch ac aeddfedu'n ddiweddarach na'r planhigion o'u cwmpas, gan ffurfio "olion cnydau cadarnhaol”. Mae olion cnydau cadarnhaol a negyddol yn haws eu canfod o'r awyr, ac maent fel arfer i'w gweld yn ystod adegau o sychder, pan fo cnydau dan y straen mwyaf.

Nodau pridd

Nodau pridd

Nodau pridd Dros amser, mae gan weithgarwch dynol y potensial i amharu ar y proffil pridd lleol. Wrth i fodau dynol gloddio pyllau neu ffosydd yn y pridd, neu gyflwyno adeileddau cerrig newydd, gall y rhain effeithio ar ymddangosiad hyfyw'r pridd ar yr wyneb. Mae nodweddion megis pyllau a ffosydd, dros amser, yn cael eu llenwi â deunydd sy'n aml yn wahanol ei natur i'r pridd cynhenid cyfagos, gan gynnwys gwahaniaethau o ran ansawdd (e.e. maint y gronynnau) neu liw. Gall adeileddau claddedig, megis waliau a cherrig cywasgedig, gael eu dwyn i'r arwyneb wrth aredig, ac maent yn aml yn fwy disglair na'r pridd cyfagos. Mae nodau pridd fel arfer i'w gweld ar ôl aredig yn yr hydref neu'r gwanwyn.