Bydd Tîm Arolwg CHERISH yn mesur, mapio, astudio a samplu ymyl yr arfordir a'r dyfroedd gyda'r glannau yng Nghymru ac Iwerddon, a hynny gydag amrywiaeth o dechnegau blaengar a thraddodiadol. Mae'r dull 'pecyn cymorth' hwn yn uno'r disgyblaethau archaeoleg, synhwyro o bell, daearyddiaeth, paleoecoleg, geomorffoleg, arolwg morwrol, archaeoleg danddwr a geoarolygon i ddeall sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein harfordiroedd a rennir.
Dulliau cherish o gynnal arolygon yma