Mae CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd/Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands) yn brosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd cyffrous, a ariennir gan Ewrop, rhwng Comisiwn Brenhinol a Henebion Cymru, y rhaglen Discovery: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a'r Arolwg Daearegol, Iwerddon. Bydd y prosiect yn cael €4.1 miliwn trwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020.
Mae CHERISH yn brosiect gwirioneddol drawsddisgyblaethol. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormusrwydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd ac arfordir rhanbarthol Iwerddon a Chymru, a hynny yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Byddwn yn defnyddio technegau arloesol i astudio rhai o'r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yng Nghymru ac Iwerddon.
Pedwar prif nod CHERISH yw:
Bydd CHERISH yn gweithio gyda chymunedau, ac yn rhoi'r canlyniadau a'r arfer gorau ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd yn y dyfodol ar led yn eang.