Mae CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd/Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands) yn brosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd cyffrous, a ariennir gan Ewrop, rhwng Comisiwn Brenhinol a Henebion Cymru, y rhaglen Discovery: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a'r Arolwg Daearegol, Iwerddon. Bydd y prosiect yn cael €4.1 miliwn trwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020.
Mae CHERISH yn brosiect gwirioneddol drawsddisgyblaethol. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormusrwydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd ac arfordir rhanbarthol Iwerddon a Chymru, a hynny yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Byddwn yn defnyddio technegau arloesol i astudio rhai o'r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yng Nghymru ac Iwerddon.
Pedwar prif nod CHERISH yw:
Bydd CHERISH yn gweithio gyda chymunedau, ac yn rhoi'r canlyniadau a'r arfer gorau ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd yn y dyfodol ar led yn eang.
CYNNAL
Byddwn yn symud ein gwefan i blatfform cyhoeddi newydd yn ystod y misoedd nesaf, felly maddeuwch i ni os na chaiff y cynnwys ei ddiweddaru mor rheolaidd!
Cookie Notice This site uses cookies to ensure the best experience. By continuing to use this website, you agree to their use. Learn more about our privacy policy